Neidio i'r prif gynnwys

Mae hwn yn wasanaeth newydd – bydd eich adborth (agor mewn tab newydd) yn ein helpu i’w wella.

Cymorth gydag iechyd ac anabledd gweithwyr

Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer cyflogwyr, rheolwyr ac unrhyw un sy’n rheoli absenoldeb gweithwyr.

Bydd yn eich helpu gyda:

  • rheoli absenoldebau a chadw mewn cysylltiad
  • cael sgyrsiau gyda’ch gweithiwr, yn y gwaith ac allan o’r gwaith
  • penderfynu ar newidiadau i helpu’ch gweithiwr i aros neu ddychwelyd i’r gwaith
  • darparu polisïau a gweithdrefnau i ddiogelu eich busnes a’ch gweithwyr
  • rheoli sefyllfaoedd cymhleth

Sut mae’r gwasanaeth hwn yn gweithio

Gofynnir cwestiynau i chi am y sefyllfa rydych yn ei rheoli. Ar y diwedd, byddwch yn cael arweiniad a chyngor yn seiliedig ar eich atebion.

Byddwch yn gallu cadw fersiwn PDF o’r canllawiau i gyfeirio atynt yn nes ymlaen. Gallwch hefyd gadw copi o’r canllawiau rydych wedi’u gweld hyd yma os byddwch yn gadael cyn i chi gyrraedd y diwedd.

Nid oes unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei chadw ac nid yw’r gwasanaeth yn cadw cofnod o’r atebion rydych yn eu rhoi.