Datganiad hygyrchedd ar gyfer Cymorth gydag iechyd ac anabledd gweithwyr
Mae’r datganiad hwn ond yn berthnasol i’r gwasanaeth Cymorth gydag iechyd ac anabledd gweithwyr, sydd ar gael yn https://www.support-with-employee-health-and-disability.dwp.gov.uk/
Defnyddio’r gwasanaeth hwn
Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei redeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Bydd yn helpu cyflogwyr a rheolwyr i gefnogi gweithwyr a deall unrhyw ofynion cyfreithiol. Gall y canllawiau helpu gyda rheoli absenoldebau, cael sgyrsiau gyda’ch gweithiwr, a phenderfynu ar newidiadau i’w helpu i aros yn neu ddod yn ôl i’r gwaith.
Rydym eisiau cyn gymaint o bobl â phosibl i allu defnyddio’r gwasanaeth. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
- mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrin
Rydym hefyd wedi gwneud y cynnwys yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Dylech ddefnyddio’r opsiynau canlynol i lywio drwy’r gwasanaeth:
- Botymau ‘Parhau’ neu ‘Gorffen a mynd i’r crynodeb’
- Y ddolen ‘Yn ôl’ (ar ochr chwith uchaf y dudalen)
Gallai defnyddio botymau ‘back’ a ‘forward’ y porwr gynhyrchu llywio gwahanol
Pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn
Mae’r gwasanaeth yn defnyddio arddulliau, patrymau a chydrannau cyffredin o System Ddylunio GOV.UK sy’n cael eu hystyried yn eang i fod yn hygyrch.
Beth i’w wneud os ydych yn cael anhawster defnyddio’r gwasanaeth hwn
Os ydych yn cael anhawster defnyddio’r gwasanaeth hwn, ysylltwch â DWP am hygyrchedd.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth hwn
Rydym o hyd yn ceisio darganfod ffyrdd o wella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os ydych yn darganfod unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu yn credu nad ydym yn cwrdd ag anghenion hygyrchedd, ysylltwch â DWP am hygyrchedd.
Y drefn gorfodaeth
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi’r ‘Public Sector Bodies (Websites and Mobile Applications) (No. 2) Accessibility Regulations 2018’ (y ‘rheolaethau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogaeth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â ‘Public Sector Bodies (Websites and Mobile Applications) (No. 2) Accessibility Regulations 2018’.
Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n llawn â fersiwn 2.2 Safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 28 Medi 2021. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 11 Medi 2024.
Profwyd y gwasanaeth hon ar 11 Medi 2024. Cafodd ei wirio ar gyfer cydymffurfiaeth â WCAG 2.2 AA. Cafodd y profion eu cynnal gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Profwyd y gwasanaeth gan ddefnyddio profion awtomataidd a phrofion â llaw.